Rydym yn deall y gall colli anwylyd fod yn hynod o anodd a dirdynnol. Gallwch ddibynnu ar ein tîm o weithwyr proffesiynol i fod gyda chi yn eich awr o angen. Byddwn yn gwrando'n ofalus ar eich gofynion ac yn darparu gwasanaeth angladd heb ei ail.
Wedi ein lleoli ym Mhencader, rydym yn darparu ein gwasanaethau i gleientiaid yng Nghaerfyrddin, Llandeilo, Llanwrda, Llangadog, Llandysul, Llanybydder, Castell Newydd Emlyn ac ar draws Sir Gaerfyrddin.